Mae'n debygol fod yna lwybrau'n croesi o'r gogledd-de ac i'r gorllewin-dwyrain cyn 1790 ond sefydlwyd y pentref ar y groesffordd gyda dyfodiad y ffordd tyrpeg i Borthdinllaen. Sefydlwyd Ymddiriedolaethau tyrpeg gan Ddeddfau Seneddol unigol, gyda phwerau i gasglu tollau ffyrdd ar gyfer cynnal y prif ffyrdd ym Mhrydain o'r 17eg ond yn enwedig yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Gyda dyfodiad y rheilffyrdd a Deddf Llywodraeth Leol 1888 gwelwyd pwysigrwydd ffyrdd tyrpeg yn lleihau, gyda chyfrifoldeb am gynnal a chadw priffyrdd yn trosglwyddo i gynghorau sir a bwrdeisdrefol.

Ceir erthygl yn yr "Herald Gymraeg" yn 1862 adeg agor capel Ebeneser yn adrodd fel hyn : "Tua deg a thrigain mlynedd yn ôl, nid oedd carreg ar garreg o adeiladau y lle hwn wedi eu codi." Yn y 1790au felly y gwelwyd y datblygu cyntaf.

Yn fuan iawn gwelwyd y Methodistiaid Calfinaidd yn ymsefydlu yno ag erbyn 1815 cychwynwyd Ysgol Sul yno. Heb adeilad cynhaliwyd yr Ysgol am gyfnod o dair neu bedair blynedd yn Nhyddyn Shon; "hen gapel adfeiliedig , a tho gwellt arno." Oherwydd cyflwr bregus yr adeilad bu'n rhaid symyd i ysgubor yn Hendrefeinws tra atgyweirwyd yr adeilad. Yn fuan wedi dychwelyd i Dyddyn Shon torrodd diwygiad allan a gwelwyd brwdfrydedd mawr ymhlith y Methodistiaid am godi capel yn Fourcrosses.

Cytunodd Evan Roberts, Bodfel i roi lle yn y pentref i adeiladu capel - llecyn o dir a les o 101 o flynyddoedd arno. Tra'r oedd y Capel yn cael ei adeiladu cafwyd lloches yn llofft y bragdy. Hyd y gellir casglu, yng nghefn Stryd Madog yr oedd yr hen gapel.

Erbyn 1840 roedd y 'Fourcrosses Inn' gyda iard sefydlog ag ychydig dai ar y ffordd i Bwllheli. Wedyn adeiladwyd rhes o ddeg o dai ar lon Chwilog. Cafwyd datblygiad mwy helaeth wedyn ar ffordd Gaernarfon gyda rhesdai ar y nail ochr i'r ffordd yn cynnwys Capel, gofaint, siopau ag ail dafarn.

Adeiladwyd yr Ysgol Gynradd yn 1912, i gymryd lle Ysgol Plasgwyn ger y fferm Plasgwyn. Mae wedi'i henwi'n Ysgol Bro Plenydd ar ôl Henry Jones Williams, bardd o'r pentref a oedd yn adnabyddus fel Plenydd.