Cofrestr 1939

Ym mis Medi 1939 â'r Ail Ryfel Byd newydd dorri allan, cyflogwyd 65,000 o gyfrifwyr i ymweld â phob tŷ yng Nghymru a Lloegr i gymryd stoc o'r boblogaeth sifil. Defnyddiwyd y wybodaeth gofnodwyd i gyhoeddi Cardiau Adnabod, cynllunio gwagio torfol, sefydlu dogni a chydlynu darpariaethau rhyfel eraill. Yn y tymor hir, byddai'r Gofrestr 1939 yn mynd ymlaen i chwarae rhan ganolog yn sefydlu gwasanaethau ar ôl y rhyfel fel y GIG.

Mae'r cofnodion yn cynnwys cyfeiriad yr eiddo, enw llawn, dyddiad geni, rhyw, statws priodasol a galwedigaeth unigolion, yn ogystal â newid enw'r preswylwyr. Er bod y Gofrestr yn llythrennol o fewn cof i lawer o bobl, cedwir gwybodaeth am unigolion byw ynghau am 100 mlynedd o'u blwyddyn geni, neu nes ceir prawf dilys o farwolaeth yr unigolyn.

Cafodd y Gofrestr ei diweddaru tan 1991, sy'n golygu bod record unrhyw un a aned llai na 100 mlynedd a diwrnod yn ôl, ond a fu farw cyn 1991 wedi ei agor yn awtomatig.

Yn absenoldeb cyfrifiad 1931 (cafodd ei ddinistrio'n ddamweiniol gan dân nad oedd yn gysylltiedig â chamau gelyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd) a dim cyfrifiad 1941 (roedd Prydain yng nghanol y rhyfel), Cofrestr 1939 yw'r unig gofnod o'r boblogaeth sy'n goroesi am y cyfnod rhwng 1921 a 1951.

Cliciwch isod i symud i'r dudalen indecs.



1939 Register

In September 1939 with the Second World War having just broken out, 65,000 enumerators were employed to visit every house in England and Wales to take stock of the civil population. The information that they recorded was used to issue Identity Cards, plan mass evacuations, establish rationing and coordinate other war-time provisions. In the longer term, the 1939 Register would go on to play a central role in the establishment of post-war services like the NHS.

The records contain the address, full name, date of birth, sex, marital status and occupation of individuals, as well as changes of name. Although the Register is literally within living memory for many people, information about living individuals will be kept closed for 100 years from their year of birth, or until proof of death has been authenticated.

The Register was updated until 1991, meaning that anyone who was born less than 100 years and a day ago but died prior to 1991 will have their record opened automatically.

With no 1931 census (it was accidentally destroyed by fire unrelated to enemy action during the Second World War) and no 1941 census (Britain was in the throes of war), the 1939 Register is the only surviving record of the population between 1921 and 1951.

Click below to move to the Index page.