LLANIESTYN EI LADD.

Dyna'r newydd prudd am Pte Tommy Hughes, ail fab Mr. John Hughes, Hendy, Garnfadryn - wedi ei ladd yn y gyflafan fawr.

Gwelsom ei frawd, Pte John Hughes adref yn wythnos ddiweddaf, ar ôl bod o hono yn yr ysbyty.

Ymunodd y ddau a'r fyddin yn wirfoddol ar doriad allan y rhyfel.

Nawdd y nef fyddo dros y gweddill o'r teulu hwn.

Yr Herald Gymraeg 21/08/1917