MARW MILWR.

Dydd Iau bu farw Mr. Ellis Griffiths, Llys Hyfryd, Garn Fadryn, yn 25 mlwydd oed.

Bu'n ymladd yn Ffrainc lle y clwyfwyd ef. Bu'n yr ysbytai am beth amser, a rhyddhawyd ef o'r Fyddin beth amser yn ôl.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu. Cymer yr angladd le heddyw (ddydd Llun) yn Garn Fadryn.

Yr Herald Gymraeg 16/04/1918