ADREF.
Capten Thomas, Gors Annedd, ddaeth adref at ei deulu umwaith mwy. Ymddengys yn dda a chalonog ag ystyried y llwybr peryglus deithia, fel y dengys gweddillion llongau bwledi. etc., a chelfi dyddorol eraill sydd yn ei feddiant.Ond peth drutaf fydd gan ddyn yw ei fywyd er mor ddibris yr ystyrir ef heddiw gan y rhai sy'n proffesu ei amddiffyn.
Cyfoded rhyw Gromwel i ddangos i'r cyfryw pwy ydynt a pha beth yw eu dyledswydd er bod yn gyson a'u proffes. Hyd nes y dêl y Diwygiwr ceisied gwerin y cenhedloedd fod yn deilwng o ddynion ac nid o gaethion. Y ffurf uchaf ar wladgarwch yw byw er mwyn a thros y goreu y mae gwlad yn sefyll am dano, sef dynoliaeth a daioni.
Yr Herald Gymraeg 18/04/1916
DIWEDD TRIST CAPT. THOMAS, GORSANEDD.
Ddechreu yr wythnos daeth y newydd prudd fod Cadben Robert Thomas, Gorsanedd, mab Mrs Roberts, Lonsdale, wedi colli ei fywyd.Fe gofir yn ddiau am y profiad chwerw a gafodd Capt. Thomas a'i wraig a'i fachgen bach pan y dinystriwyd ei long, sef y Criccieth Castle, ger Ynysoedd y Falkland tua phedair blynedd yn ôl. Buont ar y weilgi mewn cwch bach am amryw ddyddiau, a bu i amryw o honynt rynu i farwolaeth.
Yr oedd Capt. Thomas yn 39 mlwydd oed, ac yn ngwasanaeth y llynges er's dros flwyddyn. Dygwyd ei weddillion gartref i'w claddu nos Iau.
Claddwyd ef ddydd Gwener. Cydymdeimlir yn fawr a'i wraig blant a'i fam a'r teulu oll yn eu galar.