LLANGYBI HUNO'N FORE.

Dyna wnaeth y Lifftenant Robert Owen Pritchard, mab ieuengaf y diweddar William Pritchard a Mrs. Pritchard, Hendre Bach, mewn ysbyty yn Reading, o'r salwch enbyd heddyw.

Ymunodd i ddechreu a'r R.W.F., yna, dringodd yn Is.Gapten gyda'r R.A.F. Bu'n Ffrainc am, dair blynedd, lle daeth drwy helyntion blin. Cafodd ddihangfa wyrthiol un waith pan dynnwvd ef i lawr ger Cambrai, a phrysurodd yr effaith y diwedd pan ddaeth. Wedi ei ryddhau o Ffrainc, apwyntiwyd ef yn Master Instructor yn Reading. Cyn y rhyfel yr oedd yn brif glerc yn Ariandy'r London City and Midland, yn Abermaw; ac yna, gyda'r un cwmni yn Llandrindod.

Yr oedd yn ddyn ieuanc boneddigaidd, siriol, a charedig yn edrych ar ochr eu bywyd. Yr oedd o ysbryd darllengar, a meddai wybodaeth eang. Yn grefyddol, perthynai i'r Trefnyddion Calfinaidd ac yr oedd yn grefyddwr goleuedig a glan ei foes. Er iddo gael hwnnw yn naturiol, a chael "hunell grai," fel y dywed Cybi, yn ei "fro wen," trist i'r fam weddw, y teulu. a'r fro, guddio gwen mor fwyn, a bywyd mor bardd, yn ei 27ain oed.

Os salw barch, isel ben, - o Gymru,
        Cwsg aml Gymrawd addien;
    Yn nifraw ardd ei fro wen. - hunell grai,
    Ior baratoai i Robert Owen.
                                        Cybi.

Dydd Gwener, dygwyd ei farwol ran gan dorf deg i feddrod y teulu yng nghapel Helyg pryd y gwasanaethid gan y Parch Morgan Price Chwilog; y Parch Thomas Williams, Capel Helyg, a'r Parch John Davies. B.A (Isfryn), Llanarmon. Yr oedd hefyd, swyddog o'r fyddin, yn bresennol; a'r arch a gludir yn y Faner Brydeinig, tra baner wen ei fywyd ef yn dod i'r golwg dros ei fedd cynnar.

Yr Herald Gymraeg 12/11/1918


LLINELLAU COFFADWRIAETHOL.

Am y diweddar Lieutenant Robert Owen Pritchard, Hendre Bach, Llangybi, bu farw o effeithiau'r anwydwst yn Reading, ac a gladdwyd yn mynwent Capel Helyg, Tachwedd 8fed, ac efe ond 27ain mlwydd o'i oedran.

Cydymydeimla yr ardal yn gyffredinol a'i fam oedranus yn ogystal a'i frodyr a'i chwiorydd : -

Yno, o dwrf blin daearfyd, dyrchodd
        I ardderchog wynfyd;
    Iawn a fu yn ei fywyd,
    Yn rhoi'i holl bwys ar well byd.

Gyfaill ciau, mwynhau mewn hedd.- hir gofir;
        Er gwyfo'i addurnedd;
    Ow ! wyro'n foreu'i orwedd
    Ei hardd foes sy'n urddo'i fedd.

J. R. THOMAS (Glan Islwyn). Llwyn Helyg, Llangybi.

Yr Herald Gymraeg 19/11/1918


ER COF ANWYL.

Am Lieut. R. O. Pritchard. Royal Air Force, 14th Welsh Regiment, Hendre Bach, Llangybi. Unodd a'r fyddin yn 1915. Bu yn Ffrainc o 1916 i 1918. Cymerwyd ef yn glaf a bu farw Tachwedd 5ed a chladdwyd yr 8fed ym Mynwent Capel Helyg.

Dewch adref a'r milwr, rhowch iddo y croeso
    A weddai i un a fu'n darian i'w wlad,
Agorwch ei feddrod, a blodeu rhowch arno,
    Yn wylo o'i golli mae udgorn y gad.

Ym myd y trychineb, a heddwch yn agos,
    Gorffwysodd ei ben ar obenydd o hedd,
A chlywid o draw brudd siffrwd y cyfnos
    Yn marw, ac yntau yn disgyn i'w fedd.

I'r ymdrech yn wrol, a'i gatrawd yn dilyn,
    I wyneb y gelvn yn flaenor y gad,
A'i dymer garuaidd—ddi-ildio yn ennyn
    Yr ysbryd all farw dros ryddid ei wlad—

I'r ymdrech ofidus—yn ieuanc a gwrol.
    Yr aeth a chyfiawnder yn fin ar ei gledd,
A thynged ei wlad yn drwn yn y dafol
    A'i hwyneb yn ardeb o'i mynwes ddi-hedd.

Ei feddrod amgylchem yn ddistaw a gwylaidd
    A Phrydain a'i lluman -yn gwisgo ei arch,
Ag yntau yn disgyn, mor gynar, mor weddaidd,
    Dan gawod o ddagrau, edmygedd a pharch.

O Hendre ei gartref i feddrod yr Hendre,
    O gwmni ei fam ac i feddrod ef dad,
Ei arch a ddilynem a heulwen y tangnef
    Yn gwenu ar aberth a chleisiau ei wlad.

Cwsg, filwr lluddedig; cwsg, Robert annwylaf,
    Dy enw fydd mwy ymysg arwyr dy wlad;
Dy goron ennillaist-. di filwr ffyddlonaf,
    A'th babell a orffwys ym meddrod dy dad.

ISFRYN.

Yr Herald Gymraeg 03/12/1918