YSGULOR IEUANC WEDI EI LADD.
Dydd Iau daeth y newydd prudd i Chwilog fod Private Rhys M. Pritchard, B.A., mab Mr. Rhys Pritchard (swyddog eluseuol), wedi ei ladd ar Awst J 5fed, yn Ffrainc.Yr oedd yr ymadawedig yn ysgolor gwych iawn, ac er nad oedd ond 25 mlwydd oed yr oedd wedi cwblhau ei gwrs fel ysgolfeistr ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi enill ei radd o B. A.
Mae gan Mr. Pritchard bedwar o feibion eraill gyda'r fyddin, ac un ohonynt yn glwyfedig mewn ysbyty yn awr.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oll yn eu profedigaeth.