LLANGYBI Y GRIS UCHAF.
Cyraedd y gris uchaf fel prif beirianydd llong, wnaeth Mr. Wm. Cadwaladr Jones, mab y diweddar Capt. Jones, a Mrs. Jones, Llwyn Onn, yr wythnos ddiweddaf.Dymuna ei lu cydnabod a chyfeillion iddo oes hir o "wynt teg," ymhob modd.
Yr Herald Gymraeg 29/08/1916
RHWNG OFN A GOBAITH.
Ynglyn a'r Canganian, y llestr yr oedd Mr. William Cadwaladr Jones, Llwyn Onn, yn beirianydd arni, nid oes dim yn amgen nag a fynegwyd yr wythnos ddiweddaf, er y ceisir meddwl a disgwyl am y goreu, rhwng ofn a gobaith.Heibio'r "cwmwl" hyfryd meddwl am "William Cadwaladr," fel yr arferid ei alw gan gyfoedion a bechgyn y fro, fel un yn llawn nwyf a sirioldeb ieuengtid, ac fel perchen ar ragor nag un dalent. Er fod y dalent gerddorol yn etifeddiaeth y teulu, gwnaeth yn fawr ohoni, a rhagorodd fel cerddor, chwareuwr offeryn, a datganwr. Yr oedd ynddo hefyd duedd gref, fel ei ddiweddar dad. Capt. Jones, at forwriaeth, ac yn arbenig, peirianaeth.
Ac mewn amser. cymharol fyr, enillodd safle anrhydeddus prif beirianydd llong. Carwn feddwl am dano hefyd fel dyn ieuanc darllengar, meddylgar, o wybodaeth helaeth. Ac uwchlaw y cyfryw ragoriaethau ym myd talent a rhagoriaeth, carwn gofio'r 'bersonoliaeth hardd, siriol, a charedig, sef y boneddwr!
I'w anwyliaid nen olau,
O dan eu gloes, doed yn glau.
Yr Herald Gymraeg 12/12/1916
CAPEL HELYG ER COF.
Y nos Sul o'r blaen cynhaliwyd gwasanaetih er cof am Mr. W. Cadwaladr Jones yr (Wallie)yr hwn a gollwyd tra ar y mor.Yr oedd yn gerddor da ac yn arweinydd corawl rhagorol. Bu yn weitihgar yn y capel a chyflwynodd organ i'r lle. Pregethwyd yn dda iawn gan y Parch Thomas Williams a chwaraeodd Mr W E Jones y 'Dead March' ar yr organ.