Owen John Jones 1892-1918
Mab Evan Jones ,masnachwr moch a Jane Jones o Tynewydd Inn, Sarn Meillteyrn ac wedyn o Bodisa, Aberdaron.Bedyddiwyd yn eglwys St Pedr, Meillteyrn ar 17 Mehefin 1892.
Yr oedd yn saer coed ar fwrdd yr S S Clan Macnab (Glasgow) oedd yn cludo cargo o nwyddau cyffredinol pan gafodd ei suddo trwy ymosodiad gan long tanfor ar 4 o Awst 1918, 14 milltir oddi ar arfordir Cernyw gan goll 22 o fywydau.
Caiff ei goffau ar y Tower Hill Memorial yn Llundain.
Manylion gan Glyn Roberts.
NEWYDDION PRYDD.
Daeth y newydd prudd i'r ardal fod Mr. Owen John Jones, mab Mr. Evan Jones, Bod Isaf, wedi colli ei fywyd trwy i fad tanforawl Almaenaidd ymosod ar ei llong tra'n hwylio o Plymouth i Belfast, a'i suddo yn uniongyrchol.Cydymdeimlir รข Mr. Jones yn ei brofedigaeth chwerw.
Hefyd deallwn i dri arall o'r ardal gael dihangfa gyfyng trwy i'w llongau gael eu suddo yn mhell o dir eu gwlad gan fadau tanforawl Germanaidd, sef Mri. John R. Williams, Safn y Pant, Lewis Evans, Fron Oleu, a Mr. William Williams, Minafon, Glaniwyd y rhai hyn ar dir y rhai byw yn Alexandria.
Hyderwn y cawn eu gweled wedi cyraedd adref yn ddiogel cyn hir.