CHWILOG.

Mae dymuniad wedi ei ddatgan ymhlith plwyfolion Llangybi a Llanarmon mai buddiol fyddai rhoddi i fyny cofeb yn Eglwys Llanarmon am y diweddar Lieutenant D. Ethelston Davies, Rheithordy Llanarmon, yr hwn a roes ei fywyd yn aberth dros ei wlad ar faes y gad yn Ffrainc mis Mehefin diweddaf.

Ffurfiwyd pwyllgor er rhoddi y dymuniad mewn gweithrediad, a bydd y casglyddion yn myned oddiamgylch. Perchid a cherid Lieutenant Davies gan bawb a'i hadwaenai, gan ei fod yn foneddwr ieuanc hoffus, caredig a diymhongar.

"Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einoes dros ei gyfeillion."

Yr Herald Gymraeg 30/10/1917