John Williams. 1894-1917
Mab Rowland Williams, amaethwr a Jennet Williams, Gorlan Hen, Bryncroes.Roedd John Williams yn aelod o’r 1st / 6th Btn y Royal Welsh Fusiliers rhif 266146. Cymerwyd ef yn wael tra oedd yn ymladd yn Gallipoli yn Twrci. Fe gafodd ddod gartref ond bu farw yn fuan wedyn ar 27 Awst 1917.
Cymerodd yr angladd milwrol le ym mynwent St Hywyn Aberdaron ddydd Gwener 31 Awst 1917.
Yn gynar gwnest noswylio.
I’th gyrchu fry death cenad hedd.
A’r cledd a roddaist heibio.
Wrth deithio’r Aifft a’r Dardanelles.
Ce’st aml brofiad chwerw.
Ond yn dy Dduw ymddiried wnest.
A che’st ddod adra i farw.
(Y milwr cyntaf a gladdwyd yn y fynwent hon.)
Manylion gan Glyn Roberts
MARW MILWR.
Bu farw Pte. Johnnie Williams, mab Mr. Rowland Williams, Gorlan. Cymerwyd ef yn wael yn Gallipoli, a bu yn gwanychu byth er hyny.Cymerodd yr angladd (milwrol) le yn mynwent St. Hywyn, prydnawn Gwener diweddaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. T. E. Owen (Ficer), a J. Lodwig Davies, Bryncroes.
Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu galarus.