NEWYDD TRIST.

Derbyniodd teulu lsallt, Aberdaron, y newydd trist fod eu mab, Mr. Lewis Jones, wedi boddi er y 20fed o Ionawr.

Suddwyd ei long gan gwch tanforawl y gelyn, ac y mae rhai o'r dwylaw yn garcharorion yng wlad y gelynion. Saer llongau oedd Mr. Lewis Jones wrth ei alwedigaeth ac yn 22ain mlwydd oed.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 17/04/1917