William D Roberts 1891-1916.

Mab William Roberts, ceffylwr, a Jane Roberts Yr Efail, Bryncroes.

Yr oedd yn Gunner gyda’r 199th Btn Royal Field Artillery, rhif W/2967 yng ngogledd Ffrainc pan gafodd ei anafu ar faes y gad a bu farw yn yr ysbyty ar 6ed Mehefin 1916.

Cafodd ei gladdu ym mynwent Longuenesse (St Omer) cofeb 11 C 1.


Manylion gan Glyn Roberts

EIN MILWYR.

Wythnos yn ôl, crybwyllem fod tri o fechgyn dewr ein bro wedi eu clwyfo ar faes y gad.

Drwg genym hysbysu fod un o'r cyfryw wedi ein gadael ac ymadael a'i holl boenau. Bu farw yn yr ysbyty. Cyfeirio yr ydym at Gunner William D. Roberts, yr Efail. Gwr ieuanc llunaidd, cydnerth, a siriol. Perthynai i'r 119th Battalion R.F.A.

Y mae ein cydymdeimlad yn ddwfn a'i weddw ieuanc, ei rieni, a'i berthynasau.

Yr Herald Gymraeg 20/06/1916