Robert Owen Roberts. 1890-1918.
Mab Catherine Pozzi , gynt Catherine Roberts, Maen Hir, Bryncroes.Ganwyd Mai 18ed 1890. Pan yn fachgen ieuanc ymfudodd i fyw i Ganada , ble roedd yn gweithio ar fferm yn Melita , Manitoba.
Ar Chwefror 21ain 1917 ymunodd a’r fyddin yn Canada , y 251st Over-seas Battalion o’r Canadian Expeditionary Force rhif 1084359 .
Fe aeth drosodd i Ffrainc i ymladd gyda’r 44th Bn Canadian Infantry. Fe’i clwyfwyd wrth ymladd ar y Ffront Gorllewinol ac fe fu farw yn ysbyty filwrol Etaples ger Boulogne yng ngogledd Ffrainc. Mae wedi ei gladdu yn yr Etaples Millitary Cemetry rhif bedd LXVII K 27.
Manylion gan Glyn Roberts