Hugh Roberts 1899-1918
Mab David ac Ann Roberts, Murpoeth, Bryncroes.Yr oedd newydd ddechrau ar ei yrfa fel athro yn ysgol Llidiardau, Rhoshirwaun pan fu rhaid iddo ymuno a’r 9th Bat Cheshire Regiment rhif 66162 a mynd i ymladd i Ffrainc.
Cafodd ei ladd yn y brwydro yno ar 31 Mai 1918 a chaiff ei goffau ar y Soissons Memorial yng ngogledd Ffrainc.
Caiff ei gofio hefyd ar garreg fedd y teulu ym mynwent y Santes Fair ym Mryncroes.
'Hefyd Hughie ei fab a gollodd ei fywyd yn Ffrainc Mai 28 1918'.
Manylion gan Glyn Roberts