John Parry 1899-1917
Mab Henry Parry, amaethwr a Mary Parry, Coch y Moel , Bryncroes.Roedd John Parry wedi ymuno a’r llynges fasnachol pan oedd ond tua 16 oed. Roedd yn un o griw y llong Ortega a arferai hwylio o Lerpwl i Dde America aelod arall o’r criw oedd Harry Griffith, Bodgaeaf Uchaf.
Roedd yr Ortega wedi bod mewn amrhyw o frwydrau ar ei theithiau i Dde America ond yr oedd wedi cyrraedd yn ôl i Lerpwl yn ddiogel. Fe darwyd John Parry yn wael yn Lerpwl ac fe fu farw ar ôl cyrraedd adref yn ôl i Goch y Moel ar 7ed o Orffennaf 1917 ac fe’i claddwyd ym mynwent St Hywyn Aberdaron ar 12ed o Orffenhaf 1917.
Manylion gan Glyn Roberts