TOM JONES, PANT BRYNCROES.
Fore Sadwrn, 6 Rhagfyr dadorchuddiwyd cofeb yn Neuadd Goffa Sarn Mellteyrn i goffau'r bechgyn o blwyf Bryncroes a gollwyd yn y Rhyfel Mawr. Fe fu yna fyrddau coed ar y wal yn Ysgol Bryncroes yn enwi pawb o'r plwyf fu'n ymladd. Peth anghyffredin yw gweld enwau'r rhai a oroesodd y rhyfel ar unrhyw gofeb. Roedd y byrddau duon gydag ysgrifen aur amynt i'w gweld yn y neuadd, a gobeithio y cant eu harddangos yno. Does dim cyfeiriad o gwbl, wrth gwrs, at gyflwr yr hogiau ddaeth gartref. Doedd ganddynt ddim dewis, dim ond mynd yn syth yn ôl i fferm neu gwch, a nifer helaeth ohonynt wedi'u clwyfo'n gorfforol neu'n feddyliol am byth - a dim sôn am gwnsela na chynnal.
Enwau moel yn unig a geir ar y gofeb yn Sarn, fel ym mhobman arall: does dim ymdrech yna i gyfleu'r erchyllterau, y dioddef, y golled a'r hiraeth. Mi fyddai hynny'n amhosibl. Y cyfan allwn ni ei wneud yw dyfalu a cheisio dysgu a dealt rhagor amdanynt, a chofio. Bu Glyn Roberts, Mur Poeth a Geoff Dadson, Tocia Bach, yn ddygn yn chwilio rhagor am hynt a helynt a chefndir yr hogiau a gollwyd a chafwyd peth llwyddiant. Ond mae cymaint o gwestiynau i'w gofyn o hyd.
'EIN BECHGYN - Ymddengys bod tua hanner cant neu ragor o'n bechgyn ieuainc hawddgar wedi ymuno o dro i dro a'r fyddin a'r llynges. Maent yn bur wasgaredig yn Ffrainc, yr Aifft, Mesopotamia, India, yr Iwerddon, ac yng ngwersylloedd ein gwlad, etc. Hyd yn hyn y mae ffawd wedi bod yn dyner iawn wrth y mwyafrif mawr.' (Herald Cymraeg, 20 Hydref 1917)
Mae 88 enw mewn aur ar y byrddau duon ac fe gollwyd 14 o'r bechgyn, sef un o bob chwech. 21 oed oedd cyfartaledd eu hoedran. Yn 1918 y collwyd hanner y rhai a laddwyd. Dyna ragor o ffeithiau moel ond dyna'n unig a geir ar gofebau plwyfi Llŷn. Yma ceisiwn gael cip ar yr hogiau y tu ô1 i enwau'r rhai a laddwyd. Stori arall ydy beth oedd cyflwr y 74 a ddychwelodd i ddweud yr hanes.
Roedd Tom Jones, Pant gyda'r 10/Ffiwsilwyr Cymreig yn Ffrainc pan anafwyd ef yn 1916. Nodir yng nghofrestri mynwentydd ei fod yn fab i Sidney Williams, Cyllfelin, Aberdaron.
Ar hyn o bryd mae Elfed Gruffydd yn gweithio ar brosiect AHNE Llyn i 'asesu effaith y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd ar amgylchedd a chymdeithas Penrhyn Llyn'. Bydd hyn yn golygu casglu hanesion, arferion, profiadau, gwybodaeth, lluniau ac unrhyw ddefnydd perthnasol.
Os oes gennych chi unrhyw beth a allai gyfrannu at hyn, a fyddech cystal â rhoi gwybod i Elfed os gwelwch yn dda? Bydd yn falch o dynnu llun neu gopio unrhyw beth ac ni fydd rhaid cadw unrhyw ddeunydd gwreiddiol. Ni fydd unrhyw gyfraniad yn ddibwys. Gallwch gysylltu'n uniongyrchol gyda Elfed ar rhifau ffôn: 01758 612784 neu 07880536641.
Elfed Gruffydd.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Llanw Llŷn Rhagfyr 2014