Peter Jones.
Mab John Jones, gweithiwr ffordd a Mary Jones Tŷ Canol , Hebron .Dywedodd Peter Jones anwiredd am ei oed er mwyn iddo gael ymuno a'r llynges fasnachol ac fe aeth i Portsmouth i ymuno â sefydliad hyfforddi y llynges. Ni fu ei arhosiad yno ond tua pythefnos pan ei trawyd gan lid yr ymenydd a bu farw o fewn tridiau , ar 11eg o Chwefror 1917, ychydig cyn cyrraedd ei 17 oed. Er fod papurau swyddogol y llynges yn datgan ei fod yn 19 oed.
Cafodd ei gladdu yn yr Haslar Royal Navy Cemetry yn Gosport swydd Hampshire .
Manylion gan Glyn Roberts.
HEBRON LLEYN GWYWO'N IEUANC.
Drwg genym gofnodi marwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy Mr. Peter Jones, Tŷ Canol, cyn cyrhaedd yn llawn 17 oed. Yr oedd yn fachgen ieuanc dymunol - yn dal, lluniaidd, a theg yr olwg.Ymunasai a'r Llynges yn Portsmouth, a phrin bythefnos fu ei arhosiad gyda hwy pryd y tarawyd ef yn wael, ac ymhen tridiau cafodd ei ollwng o'i boenau.
Cafodd gladdedigaeth filwrol. neu yn hytrach lyngesol, barchus, a chafodd ei dad a Mr Griffith Williams, Pwllcrwn, fod yn bresenol.
Loes drom i'w rieni ydoedd ei dorri i lawr mor sydyn a chynar ar ei ddydd, ac yr ydym yn cydymdeimlo'n ddwys fel cymydogion ac ardal â hwy yn eu profedigaeth lem.