Robert Owen Griffith. 1897-1918.
Mab John a Laura Griffith, Pen Y Gongl, Bryncroes (Hebron).Gweithiwr amaethyddol oedd Robert Owen cyn iddo ymuno a’r 13th Bn, Royal Welsh Fusiliers rhif 203697.
Fe fu farw yn yr ymladd yn Ffrainc ar 22ain Ebrill 1918 yn 21 oed.
Cafodd ei gladdu ym mynwent Bouzincourt Ridge, Albert yn Ffrainc.
Caiff ei goffau hefyd ym mynwent capel Anibynnol Hebron.
Robert Owen
Annwyl fab John a Laura Griffiths
Pen Y Gongl, Bryncroes
Collodd ei fywyd ar faes y gwaed yn Ffrainc
Noson yr 22ain o Ebrill, 1918
Yn 21 mlwydd oed.
Ac yna y gorffwys ei gorff hyd fore yr Atgyfodiad Mawr.
Hefyd ei frawd William
A fu farw ym Mhen y Gongl, Tachwedd 2 1918
Yn 19 mlwydd oed.
Gorffwys ei babell ef o dan y goflech hon.
Manylion gan Glyn Roberts.