John Griffith 1895-1918.
Mab Robert Griffith, gwerthwr yswyriant ac Ellen Roberts, Rhent, Bryncroes.Roedd John Griffith wedi mynd i weithio i Faenceinion ac yn gweithio i gwmni Morris and Jones yno.
Ym mis Gorffenaf 1915 ymunodd a’r fyddin, y 9fed Bn Royal Welsh Fusiliers rhif 21020. Aeth drosodd i Ffrainc i ymladd ac fe syrthiodd ar faes y gad ger tref Bethune yng ngogledd Ffrainc ar 22ed Mawrth 1918 yn 22 oed.
Caiff ei goffau ar yr Arras Memorial yn Ffrainc, Bay 6.
Caiff ei goffau hefyd ar garreg fedd y teulu ym mynwent y Santes Fair ym Mryncroes.
Er serchog gof am Robert Griffith, Rhent, Bryncroes fu farw Awst 14, 1914 yn 42 mlwydd oed.
Hefyd ei briod Ellen Griffith bu farw Tachwedd 18, 1945 yn 78 mlwydd oed.
A choffad am Johnie eu hannwyl fab a gwympodd ger Beugney, Ffrainc yn y rhyfel mawr yn 23 mlwydd oed.
Manylion gan Glyn Roberts.
TRISTWCH.
Daeth y newydd heddyw ddydd Gwener fod Pte John Griffith, mab hynaf Mrs Ellen Griffith, Rhent, wedi cwympo yn y gyflafan ofnadwy yn Fifrainc.Cydymdeimlir yn ddwys a'i fam weddw a'r teulu yn eu galar.