NEWYDD PRUDD.
Derbyniodd Mr Griffith Williams, goruchwyliwr London City and Midland Bank, Bethesda, y newydd trist fod ei unig fab, 2nd Lifftenant William Henry Williams, R. W.F., wedi ei ladd ar faes y frwydr.Yr oedd ei fam yn ferch i'r diweddar Mr William Davies, a Mrs Davies, Ironmonger, 79, High Street.
Nid oedd ond 23 mlwydd oed, ac ymnoodd a'r fyddin yn 1914. Cafodd ei ddyrchafu yn swyddog ar ôl gwasanaethu am beth amser yn Ffrainc. Cyn ymuno a'r fyddin gwasanaethai mewn ariandy yn Nghaernarfon. Yr oedd yn ddyn iauanc gwylaidd ac addfwyn o ysbryd, lluniaidd ei gorff, a glân ei fuchedd.
Talai ymweliadau mynych a'i berthynasau yn y dref, ac edrychid i fyny ato fel eilun ganddynt. Chwerw ddydd iddynt oedd rhoi ei fam dirion i huno yn erw Duw, ond wele heddyw archoll ddofn arall wedi ei hagor iddynt yn symudiad cynar y cyfaill ieuanc i ffordd yr holl ddaear.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i dad, a'i chwiorydd, ac a'r perthynasau oll yn eu mawr ofid am dano.