MARW O'I GLWYFAU.
Wythnosau yn ôl daeth gair i Ty'n Pin, Mynytho, fod y mab, Robert Williams, R.W.F., wedi ei glwyfo yn rhywle yn Ffrainc.Methwyd a chael manylion, ond yr wythnos ddiweddaf daeth y newydd ei fod wedi marw o'i glwyfau. Prudd iawn yw derbyn y newyddion difrifol hyn, ac y mae'r wythnosau o aros heb wybod dim ar ôl yr hysbysiad cyntaf, er erfyn am wybodaeth, yn ychwanegu yn fawr at bryder a gofid teuluoedd a pherthynasau.
Bychan wyddem pan yn anfon rhodd fechan iddo gyda dymuniadau da eglwys Horeb (A.), nad oedd yn bosibl iddo ei derbyn.
Y Nefoedd fyddo yn gymorth i'r teulu trallodedig yma, gyda'r miloedd eraill, ddal yr ergydion trymion hyn.