CWYMPO AR FAES Y GAD.

Derbyniodd Mr Andreas Roberts, gynt o Ffestiniog, a'r hwn sydd yn trigianu'n awr gyda'i ferch, Mrs G. Aberkin Jones, St. Peter's Terrace, y newydd trist fod ei fab, Private John Llewelyn Reberts, wedi ei ladd yn Ffrainc.

Cyn ymadael a'r wlad hon tua chwe mlvnedd yn ôl i'r America perthynai Private Roberts i Diriogaethwyr Meirionydd, a thua blwyddyn yn ôl daeth drosodd i ymuno a'r fyddin Brydeinig gyda llu o ddewrion Cymreig eraill. Bu dan ddisgyblaeth filwrol yn Litherland, ac aeth drosodd i Ffrainc dri mis yn ôl.

Yr oedd yn ŵr ieuanc dymunol a hynod fonheddig ei natur, a chanddo lu o gyfeillion mynwesol yma, a thros y Werydd.

Mae ein cydymdeimlad yn ddwfn a'i deulu yn chwerwder y brofedigaeth.

Yr Udgorn 06/12/1916