WEDI EI LADD YN Y FRWYDR.
Y mae Mrs Morris, mam Mr Thomas. Jones Morris, Bakehouse Yard, wedi derbyn llythyr o'r Dardanelles oddiwrth Lieut. Thos Picton, yn ei hysbysu fod ei mab, Private Robert Morris, wedi ei ladd yn y frwydr ddechreuodd ar y 10fed o Awst.Hysbysid y cafwyd ei gorff ac y claddwyd ef yn barchus.
Dywedai y swyddog fod Private R. Morris yn filwr rhagorol.
Yr Udgorn 24/11/1915
Pt. Robert Morris
Derbyniodd Mr. T. J. Morris, Bakehouse Yard, Pwllheli, y newydd yr wythnos o'r blaen fod ei frawd, Private Robert Morris (mab Mrs Morris, Club House Llan Ffestiniog, wedi ei ladd yn y Dardanelles ym mis Awst diweddaf.Swyddog o 1-7fed Fattaliwn y Royal Welsh Fusiliers anfonodd y newydd iddo. Desgrifiodd y swyddog ef fel milwr dewr.