MARW MILWR.

Drwg gennym gofnodi marwolaeth Private W. D. Williams, mab y diweddar Capt. Williams a Mrs Williams, Ty'ncoed, yr hyn a gymerodd le fore Nadolig mewn yspyty yn Ffrainc.

Cafodd angladd barchus a chladdwyd ef yn mynwent Dieppe.

Roedd ei frawd, Lifft. Robert Williams, yn yr angladd. Bachgen dawnus a hoffus ydoedd, a chydymdeimlir a'i fam a'i frodyr yn eu tristwch.

Yr Herald Gymraeg 14/01/1919