ABERSOCH MARW.
Heddyw mae genym y gorchwyl galarus o hysbysu marwolaeth yr anwyl Capt, Richard Jones, Minafon. Bu farw fore Sabbath, y 7fed Ebrill, yn Lerpwl, o glefyd y galon gyda sydynrwydd brawychus sydd wedi gordoi yr ardal a galar mawr ar gyfrif yr anwyldeb a'r parch cyffredinol a delid iddo ar bob llaw, ac yn enwedig ar gyfrif y loesion pruddaidd i'w annwyl briod, Mrs Jones, a'i anwyl ferch, Miss, A. L. Jones, a'i anwyl fab, Mr. Evan Jones, fferyllydd, Pwllheli.Treuliodd Capt. Jones 48 mlynedd ar y môr gyda llwyddiant eithriadol. Yn yr ugain mlynedd diweddaf llywyddai yr S.S. Oriflame, eiddo Mri Lane and Macandrew, Llundain, hyd nes iddi fyned yn aberth i ddistryw rhyfel ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf. Bu yn y dwfr yn ei life-belt am rai oriau cyn cael ei waredu.
I ŵr 60 oed, fel y gallesid disgwyl, bu y shock yn ormod. Gwellhaodd i raddau gobeithiol, a rhoddwyd iddo ddyrchafiad derbvniol iawn i fod yn overlooker ar longau ei gwmni yn Lerpwl, lle y cafodd yr ymosodiad diweddaf.
Wedi iddo ef fyned tu hwnt i'r llen, a chyn, i'w feistri wybod am ei ymadawiad, anfonasant lythyr hynod gymeradwyol o'i wasanaeth yn Lerpwl, megys y rhoddwyd iddo ganddynt gyda rhoddio gwerthfawr bob blwyddyn. Ni bu neb erioed yn fwy ffyddlon a chydwybodol i'w feistri. Arweiniodd uwchlaw y cyfan fywyd glan a chrefyddol ar hyd ei oes. Y Sabboth diweddaf y bu byw, mwynhai Anthropos yn pregethu yn y Graig Abersoch. gydag edmygedd mawr. Yr oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod gweddi cenhadol nos Lun y Pasg yn yr un lle. Unai yn hapus i ganu emymau a garai mor fawr. Erbyn hyn gwyddom ei fod wedi ymuno a'r cor nefol yn y tragwyddol drigfanau. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fyddo'n nerth a diddanwch i'w anwyliaid.
Dodwyd ef o ran ei gorph i orwedd yn mynwent y Bwlch, ddydd Gwener, Ebrill 12. Gwasanaethwyd gan, y Parchn. W Williams, Penygroes; H. D. Lloyd, B.A., Bwlch, a D. T. Roberts, Rhydbach.