WEDI CWYMPO.

Yr wythnos ddiweddaf daeth hysbysrwydd fod y llanc gwylaidd Private John Owen Jones, yr hwn a wasanaethai cyn y rhyfel yn masnachdy Druid House, wedi ei ladd yn Mhalestina.

Genedigol ydoedd o Croesor, Llanfrothen.

Cafodd ei glwyfo rai misoedd yn ôl mewn brwydr ar wastadedd Gaza, ac yr oedd amheuaeth ynghylch ei ddiogelwch hyd yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn gymeriad pur a dilychwin, ac yn un a hoffid yn fawr gan gymdeithas Ceid yn ei fywyd y rhinweddau prydferth hyny sydd yn gwneud eu perchenog yn ddylanwad iach mewn cwmni.

Cydymdeimlir a'i deulu trallodedig yn eu dirfawr boen.

Yr Udgorn 06/02/1918