COLLI EI FYWYD.
Ychydig amser yn ôl cyrhaeddodd y newydd prudd fod y peirianydd medrus Mr J. Edward Jones, priod Mrs Mary Jones (merch Mr a Mrs John Griffith, Penlan Bach), wedi colli ei fywyd trwy ymgais ddinystriol o eiddo suddfad y gelyn. Yr oedd Mr Jones yn beirianydd ar un o agerlongau mwyaf y wlad, a chafodd y llestr i ba un y perthynai ei suddo yn mor yr Iwerddon, a glaniwyd gweddill y criw yn Queentown.Brodor o Flaenau Ffestiniog oedd yr ymadawedig, ac yr oedd oddeutu 45 mlwydd oed. Yr oedd Mr Jones yn pwyllog a chymdeithasgar, ac yn ddiwylliedig o feddwl a barn. Cyfarfu a'i ddiwedd trist pan yn anterth ei nerth, ac addewid o ddyfodol disglaerwyn o'i flaen.
Cydymdeimlwn a'i briod a'r teulu yn eu profedigaath lem a chwerw.