NANHORON CROESAW ADREF.

Daw rhai o'n bechgyn dewr adref y dyddiau hyn am yspaid byr o swn y frwydr.

Balch oedd pawb wrth weled Private Evan Griffith, yn ein plith. Yntau wedi bod am fisoedd lawer yn Ffrainc.

Da genym ei fod yn parhau i wella o'i glwyfau. Aeth yn ôl oddiyma i'r ysbyty yn Newcastle.

Mwyn oedd gweled ei wyneb tirion, ac y mae dymuniadau goreu yr ardal am iddo gael llwyr adferiad buan.

Yr Herald Gymraeg 16/01/1917