NEWYDD TRIST.
Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd y newydd trist fod Private George Evans, Amlwch, nai Mrs. Sarah Evans (ond diweddar erbyn hyn), New Street, wedi cwympo yn Ffrainc yn 23 mlwydd oed.Mab ydoedd i'r diweddar Capt. David Evans, yr hwn a fu farw ac a gladdwyd yn China bell.
Yr oedd George yn anwylyn y teulu, yn ganwyll llygad ei fam ac yn eilun calon ei nain. Talai ymweliadau mynych a'i berthynasau yma, a ffurfiodd trwy rym cyfeillgarwch gyfeillion pur a'u hedmygent yn fawr. Meddai ar gorff llunaidd a chalon eang, a gwnai garedigrwydd heb ddisgwyl ad-daliad yn ôl. Carai ei nain yn angerddol ac yr oedd y ddau ynghlwm am eu gilydd, ac mor agos y darfu iddynt sangu ar diriogaeth y wlad ddiofid.
Hunodd ar drothwy einioes, ac ni chyll wrid ieuengrwydd byth mwy.
Cydymdeimlwn a'i deulu oll yn eu mawr alar.