WEDI CWYMPO.
Caed hysbysrwydd fod Second-Lifftenant R. Humphrey Davies, R. W. F., ail fab y Parch. E. W. Davies, Ton, Pentre, ac wyr y diweddar Barch. William Davies, Trefor, wedi ei ladd ar Awst 23ain yn Ffrainc.Yrnunodd a'r Royal Fusiliers yn Awst, 1918, ac anfonwyd ef i Ffrainc gydag adran o'r Royal Engineers.. Gwasanaethodd fel despatch rider am ddwy flynedd, a chafodd waredigaethau gwyrthiol. Cafodd gomisiwn ym Mawrth y flwyddyn hon. Addysgwyd ef yn Ysgol Ganolradd Porth, a chymerodd ei radd o B.Sc. yng Ngholeg y Brif Ysgol, Caerdydd, a daliai ysgoloriaeth Morganwg mewn gwyddoniaeth am bedair blynedd.
Cyn ei ymuniad daliai swydd bwysig yn nosbarth Aberystwyth. Flwyddyn yn ol ymbriododd a merch ieuengaf yr Henadur Richard Morgan, Y. H., Aberystwyth. a chwaer Mrs Bonner Davies, Tonypandy, a Mrs D. Lloyd, Llanelly. Nid oedd ond deg ar hugain mlwydd oed.
Y mae gan y Parch. E. W. Davies fab arall yn ymladd, sef Second Lifftenant W. G. Davies.