Wedi ei Ladd.
Blin gennym hysbysu fod y Preifat Howell Oswald Williams, gynt o Henllan, wedi ei ladd yn Ffrainc. Mab ydoedd i'r diweddar Mr a Mrs Robert Williams, Henllan.Bachgen dymunol a thawel oedd Howelll i bawb oedd yn ei adnabod.
Cydymdeimlir yn fawr gyda'i frodyr yn eu galar.
Y Dinesydd Cymreig 31/10/1917
ER COF.
Yn nghyfarfod eglwysig Ebenezer M.C., y nos Iau o'r blaen, gwnaed coffhad tyner am y diweddar Pte Howell Oswald Williams (Henllan gynt), yr hwn a laddwyd yn un o'r brwydrau mawr yn Ffrainic yn ôl fel y daeth yr hysbysiad.Cafodd gwrs o addysg dda yn Ysgol y Sir, Pwllheli, a gwnaeth ddefnydd campus o hvnny. Cafodd fynd ar unwaith i un o ganghenau ariandy y London City a Midland, yn mha le yr oedd yn dringo i fyny mewn safle yn gyflym. Yr oedd yn fachgen ieuanc siriol, distaw, ac o gymeriad gloew, a, phawb yn hoff ohono bob amser trwy yr holl ardal; hefyd byddai ar ben y rhestr bob blwyddyn tra yr oedd yma gyda' r arholiad sirol. Yr oedd hefyd yn meddu ar ddull boneddigaidd o ymddwyn yn mhob lle, gyda phawb a chyda'i lygaid siriol yn ennill ffafr pawb.
Yr ydym bron yn sicr mai ef yw'r trydydd i syrthio yn aberth yn yr rhyfel fawr bresenol o'r cylch hwn. Mae colli ein bechgyn fel hyn yn beth digalon iawn i ardal lle y mae genym gydymdeimlad mawr a'r teuluoedd mewn ardaloedd eraill sydd yn colli yn barhaus rai anwyl iawn ganddynt.
Cydymdeimlwn fel ardal a'r perthynaeau yn eu profedigaeth, gan hefyd ddymuno pob amddiffyniad dros eu bechgyn sydd yn ymladd ar hyn o bryd.