ABERTH Y RHYFEL.
Yn ystod yr wythnos o'r blaen daeth y newydd trist fod Pte. John Rees, mab Mr a Mrs Rees, Henbandy, wedi marw o'i glwyfau yn nwylaw'r gelyn, a'i fod wedi'i gladdu ers tua mis Mawrth diweddaf. Dyma'r ail fab i'r teulu trallodus ei golli yn y rhyfel.Yr oedd yn ŵr ieuanc dymunil a hawddgar a chyda llaw gellir dweyd fod dau eto o'i frodyr yng ngwasanaeth y wlad, fel y gwelir fod y teulu wedi gwneud ei rhan yn wladgarol tu hwnt. Estynwn y cydymdeimlad dyfnaf a'i briod a'i deulu galarus yn eu dwfn drallod.