WEDI EI LADD.
Boreu heddyw (dydd Mawrth), derbyniodd Mr R. T. Williams, Bon Marche, hysbysrwydd swyddogol yn dweyd fod ei frawd, Private G. Williams, mab Mrs Williams, School Terrace, Abererch, wedi ei ladd yn Ftrainc. Gwasanaethai cyn ymuno gyda'i frawd, ac yr oedd yn ffafryn yn mysg ei gyfoedion.Yr oedd yn fachgen ieuanc hynod o brydweddol, a'i ymddanghosiad boneddigaidd yn ddengar, a'i gerddediad yn weddaidd.
Y mae y teulu hwn wedi yfed yn helaeth iawn yn ddiweddar o ddyfroedd chwerw yr anialwch. Mae'n wybyddus i'n darllenwyr yn ddiau ddarfod i'w fam gladdu ei phriod a'i nhai y flwyddyn hon, ac wele fwlch arall wedi ei wneud yn y cartref eto.
Yn ddi ddadl y mae y teulu hwn yn haeddu cydymdeimlad llwyraf gwlad a thref yn eu hamrywiol brofedigaethau.
Yr Udgorn 15/11/1916
Y BEIBL A'R FWLED.
Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mrs Williams, School Terrace, Abererch, sypyn dillad ei mab a laddwyd yn Ffrainc y flwyddyn ddiweddaf, Private Griffith Williams, ac yn mysg y pethau a feddai yr oedd ei Feibl, yr hwn a gynwysai 600 o dudalenau, a'r fwled wedi mynd trwyddo. Lladdwyd y cyfaill diymhongar a hoff trwy'r Gair, a bydd hwn yn drysor cysegredig gan y teulu ddyddiau eu hoes.Brawd ydoedd i Mr R. T. Williams, Bon Marche, lle y bu yntau yn gwasanaethu cyn ymuno a'r fyddin.