MAJOR A. H. WHEELER TREFOR, WEDI EI LADD.
Nawn Sadwrn daeth y newydd trist i Blas yr Eifl, Trefor, fod Major A. Henry Wheeler (6ed Fataliwn R.W.F.) wedi, ei ladd ddeng diwrnod yn flaenorol yn y Dardanelles. Ymdaenodd y newydd fel trydan trwy yr ardal a'r cyffiniau, gan beri tristwch a dychryn mawr. Pedwar niwrnod y bu fyw wedi gadael Alexandria, am faes y gwaed.Ganwyd Major Wheeler yn Forest Hill, Llundain, yn 1874. Derbyniodd addysg dda yn foreu, yr hon a'i galluogodd i lanw safleoedd pwysig wedi hyny. Yn lled ieuanc symudodd i Bodmin, swydd Cernyw, i fod yn oruchwyliwr ar chwarel wenithfaen. Enillodd boblogrwydd mawr tra yno, drwy ei wasanaeth yng nghylchoedd cymdeithasol y dref. Daliodd swyddau anrhydedus mewn gwahanol gynghorau. Ar farwolaeth Mr. George Farren, dewiswyd ef gan gwmni chwarelau setts Trefor a Nefyn, yn oruchwyliwr ar eu chwarelau, yr hyn a'i dygodd i gysylltiad a Gogledd Cymru, bymtheng mlynedd yn ôl. Ar ymuniad cwmni chwarelau Penmaenmawr a Llanfair, penodwyd ef yn gyfarwyddwr a goruchwyliwr drachefn, yr hon swydd a lanwai pan dorodd y rhyfel allan.
Am gyfnod bu yn Gapten ar gwnmi gwirfoddolwyr Pwllheli a Phenygroes, ac wedi hyny ar y Tiriogaethwyr. Yn fuan wedi tori allan y rhyfel hwn, dyrchafwyd ef yn Major ar y 6ed Fataliwn R. W. F. Yr oedd ynddo gymwysderau milwr a swyddog dewr.
Yn ystod ei oruchwyliaeth yn chwarel yr Eifl gwelwyd dirwasgiad masnachol tost. Er hyny llwyddodd i gadw y gweithwyr yn weddol gyda'u gilydd mewn amserau enbydus. Enillodd lu mawr o gyfeillion yn mysg y gweithwyr, pa rai a gynhyddent flwyddyn ar ol blwyddyn. Yr oedd lle cynes iddo yng nghalonau ei weithwyr, a theimlir yn drist yn herwydd ei golli. Taflodd ei hun a'i wasanaeth i holl gylchoedd cymdeithasol ei ardal. Mynych y gwelwyd ef yn llanw cadeiriau cyfarfodydd cyhoeddus.
Er yn Eglwyswr o'i febyd, parchai yr holl enwadau crefyddol, ac estynodd gymorth mewn gwahanol ffyrdd i bob enwad yn ardaloedd godre'r Eifl. Cymera ddyddordeb dwfn yn addysg plant Trefor, ac ymhyfrydai ymhob llwyddiant ddanghoswyd ganddynt. Bu yn cynrychioli rhanbarth Pistyll, Carnguwch a Llanaelhaiarn am dymhorau fel aelod annibynol ar y Cynghor Sirol, ac iddo ef y perthynai yr anrhydedd yn awr.
Chwith yw meddwl fod ei yrfa wedi dirwyn i ben; na welir byth mwy ei bersonoliaeth hardd yn symud yn ein plith. Teimlir colled yn y fyddin o'i farw, gwelir bwlch yn y chwarel, ac mewn cylchoedd cymdeithasol yn ardal Llanaelhaiarn.
Hiraethir gan lawer am na ddychwel efe, ac y mae dagrau ar ruddiau llu o"i gydnabod; ond yn ei gartref y mae y clwyfau ddyfnaf wedi eu hagor gan yr ergyd. Cydymdeimlir yn fawr a'i briod hoff a'i blant.
Danghoswyd hyn yn mhob cynulleidfa grefyddol yn Nhrefor nos Sabboth diweddaf, trwy ddull tarawiadol a syml. Os na ellir gosod plethdorch ar ei fedd cudd, os yn rhy bell i blanu blodeu arno, awel dyner chwytha drosto ddymuniadau calonau llawn, ond fod y fraich yn rhy fer i'w gosod mewn gweithrediad. Aberthodd ei fywyd a'i gysuron dros ei wlad, ac efe ond 41ain oed. Rhagor nis gallai ei wneuthur. Engyl glan gwyliwch "man fechan ei fedd," a bydded gysur i alarwyr na chadd y bedd ond rhan fechan o'r bersoniliaeth a gerid gymaint; y mae Duw yn gofalu am y rhan helaethaf, a'r nefoedd yw ei chartref.