NEWYDD DRWG.
Derbyniodd Mr. a Mrs. Robert Jones, 8, Gosen Terrace, air o'r swyddfa Rhyfel, yn mis Awst, fod ei mhab E. W. Jones, wedi ei ladd yn Ffrainc.Ond da genym ddeall iddynt dderbyn gair oddiwrtho ef ei hun yn mynegi ei fod yn iach a dianaf. A deallwn ei bod yn parhau i gael gair ganddo.
Sut y bu i'r camgymeriad hwn ddigwydd, nis gwyddom.
Yr Udgorn 04/10/1916
TREFOR, LLANAELHAIARN MARW O'I GLWYFAU.
Gwir ddrwg genym orfod cofnodi marwolaeth y cyfaill ieuainc Mr Evan Welwood Jones, mab Mr a Mrs. Robert Jones, 8 Gosen Terrace, yr hyn gymerodd le yn Ysbyty Colchester, mewn canlyniad i'r clwyfau dderbyniodd ers yn agos i dri mis yn ôl, yn Ffrainc.Efe yw y cyntaf i'w golli o'r gymydoageth hon, er fod amryw wedi eu clwyfo, a llawer wedi gwella. Ei gas beth ef oedd myned allan i ymladd. Yr oedd o ysbryd mor addfwyn a charedig.
Dygwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent Llanaelhaiarn, Ionawr 18, ag yntau ond 24 mlwydd oed. Cydymdeimlir yn fawr a'i rieni yn eu trallod.
Fe gofir i'r awdurdodau hysbysu ei fod wedi ei ladd o'r blaen, pryd nad oedd, ond daeth y diwedd ar ei daith a gwell yw arno heddyw yn ddiau allan o gyrraedd pob gelyn, ing a phoen.