YN ABERTH DROS EI WLAD.
Derbyniodd Mr. a Mrs. W. Hughes, Manchester House, air o'r Swyddfa Rhyfet yn mynegi fod eu mab, William Hugh, wedi ei ladd ar y maes yn Mesopotamia. Torwyd ef i lawr, ac efe etto ond 25 mlwydd oed. Yr oedd yn fachgen ieuanc tawel a hawddgar, a hoffid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai.Cydymdeimlir a'r teulu oll yn eu galar.