BARBAREIDDIWCH Y GELYN.
Morwyr o Drefor a Nefyn wedi Colli.
Dydd Mercher, cyrhaeddodd y newydd fod y gelyn wedi suddo agerlong Brydeinig ac fod deg o'r dwylaw wedi colli eu bywydau, yn eu mysg yr oedd pedwar o forwyr a Leyn, sef Capten Henry William Hughes, Llythyrdy, Trefor, a Mr. John J. Rowlands, Gwydr Mawr, Trefor; y blaenaf yn ŵr priod a theulu, a'r olaf yn fachgen ieuanc 17 mlwydd oed, ac wedi cael y profiad chwerw o fod mewn pedwar llongddrylliad yn flaenorol.Hefyd, collodd Mr. William Roberts, Caerhyg, a. Mr. Henry Lloyd, Caerlon, Nefyn, eu bywyd yn yr un agerlong.
Cydymdeimlir yn fawr iawn a'u teuluoedd trallodedig.