ADREF.
Llawenydd genym gael croesawu Mr. Fred Roberts, Bodafon, adref wedi pymtheg mis o fordwyo Mor y Werydd, a Mor y Canoldir, ynghanol peryglon enbyd uwch a than y dyfroedd.Yr Herald Gymraeg 17/10/1916
NANHORON EIN BECHGYN.
Da genym ddeall fod Pte. Frank A. Rdberts, Rhydgaled yn parhau i wella. Cymerwyd ef yn wael yn Salonika, o'r enteric fever ar ôl bod o hono yno am fisoedd.Mae yn awr yn yr ysbyty yn Orpington, Llundain. Ymunodd a'r A.S.C. fel gyriedydd modur yn fuan ar ôl toriad allan y rhyfel.
Eiddunwn iddo adferiad buan.
Yr Herald Gymraeg 26/12/1916
AR GOLL.
Ddydd Mercher, Hydref 17, taflwyd yr ardal fechan hon i dristwch mawr gan y newydd fod dau o'n bechgyn ieuainc hawddgar ar goll, sef Mr Fred Roberts, Bodafon, a Mr J. E. Jones. Penrhyn Terrace. Ar y môr yr oeddynt, a chafodd eu llong ei suddo gan y gelyn, ac ofnir yn fawr am eu tynged.Cafodd bachgen ieuanc arall o'r ardal waredigaeth fawr, yr hwn a wasanaethai fel swyddog ar yr un llong, sef Mr Morris Jones, Penbont.
Mawr gydymdeimlir a theuluoedd yr uchod yn eu profedigaethau chwerwon.
Yr Herald Gymraeg 30/10/1917
Fredrick Henry Roberts. 1896-1917
Mab Henry a Jane Roberts, Bodavon, Sarn Meillteyrn, gynt o’r Efail Uchaf, Bryncroes.Yr oedd yn saer coed ar fwrdd y llong S S Cayo Bonito (Llundain) a oedd yn cludo llwyth o lo o Abertawe i’r Eidal pan gafodd ei tharo a’i suddo gan long tanfor ger Genoa, pedair milltir oddi ar arfordir yr Eidal, ar 11 Hydref 1917, gan golli bywyd chwech o’r criw gan gynnwys Fredrick Henry Roberts a John Evans Isgraig, Sarn.
Caiff ei goffau ar y Tower Hill Memorial yn Llundain ac hefyd ar garreg fedd y teulu ym mynwent St Pedr, Meillteyrn.
FREDRICK HENRY
A gollodd ei fywyd oddi ar yr
S. S. Cayo Boniyo, Hydref 11 1917
Yn 21 oed.