David Jones. Medi 26 1897 - Ebrill 25 1917
Mab y diweddar Thomas Morris Jones a Jane Jones gwesty Pen y Bont, Sarn Meillteyrn.Yr oedd wedi ymuno a’r llong S S Swanmore (Lerpwl ) a phan oedd ar ei thaith yn ôl o Baltimore yn yr Unol Daleithiau gyda llwyth o arfau fe’i suddwyd trwy ymosodiad gan long tanfor tua 230 milltir oddiwrth Iwerddon ar 25 Ebrill 1917, gan golli unaeddeg o fywydau.
Mae coffad iddo ar y Tower Hill Memorial yn Llundain . Pier 8 , Cwrs 3 , Colofn C.
Caiff hefyd ei goffau ar garreg fedd y teulu yn mynwent St Pedr, Meillteyrn. Rhif B023.
'Hefyd am ein hanwyl fab David yr hwn a gollodd ei fywyd ar y mor drwy weithred y gelyn Ebrill 25 1917.
Ganwyd Medi 26 1897.'
Manylion gan Glyn Roberts.
TRIST.
Daeth y newydd pruddaidd i Mrs Jones, Penybont Hotel, fod ei mab, David, ugain oed wedi colli ei fywyd ynghyd a deg eraill o ddwylaw y llong Swanmore trwy suddiad y llong gan fad tanforawl yr elyn dieflig.Bachgen hoffus a siriol iawn bob amser ydoedd David, ac mae ein cydymdeimlad llwyraf a'i fam, ei frodyr a'i chwiorydd yn eu hiraeth a'u tristwch.