John Evans 1900-1917
Mab Evan Jones Evans, saer maen ac Elizabeth Evans, Isgraig , 4, Penrhyn Terrace, Sarn Meillteyrn.Yr oedd yn forwr cyffredin gyda chyfrifoldeb am y golau ar fwrdd yr S S Cayo Bonito a suddwydd ar 11 Hydref 1917 ger Genoa yn yr Eidal gan golli chwech o fywydau yn cynnwys John Evans a Fredrick Henry Roberts.
Ceir coffad iddo ar y Tower Hill Memorial yn Llundain Pier 3 , Course 1 , Face D , Column F.
Hefyd ar garreg fedd y teulu ym Mynwent St Pedr, Meillteyrn.
Manylion gan Glyn Roberts.
AR GOLL.
Ddydd Mercher, Hydref 17, taflwyd yr ardal fechan hon i dristwch mawr gan y newydd fod dau o'n bechgyn ieuainc hawddgar ar goll, sef Mr Fred Roberts, Bodafon, a Mr J. E. Jones. Penrhyn Terrace. Ar y môr yr oeddynt, a chafodd eu llong ei suddo gan y gelyn, ac ofnir yn fawr am eu tynged.Cafodd bachgen ieuanc arall o'r ardal waredigaeth fawr, yr hwn a wasanaethai fel swyddog ar yr un llong, sef Mr Morris Jones, Penbont.
Mawr gydymdeimlir a theuluoedd yr uchod yn eu profedigaethau chwerwon.