Pte S. A. DICKS.
Mab yw Private S. A. Dicks, Ddolgam, Pontllyfni, Clynnog, i Mrs Dicks Roberts, a'r diweddar Mr. Benjamin Dicks, Taylor Street, Lerpwl. Y mae yn gwasanaethu ei wlad gyda'r "Liverpool Pals" yn Ffrainc.Yr Herald Gymraeg 01/02/1916
Samuel Arthur Dicks 1892-1916
Mab Benjamin Dicks , masnachwr nwyddau adeiladu, Lerpwl a Hannah Dicks, gynt Roberts, merch Robert Roberts, gôf, a Margaret Roberts, Yr Efail, Sarn Meillteyrn.Ymunodd yn Lerpwl gyda’r 13th Bn The Kings (Liverpool Regiment) a bu farw ym mrwydr y Somme ar 17eg o Awst 1916.
Caiff ei goffau ar gofeb Thiepval yn Ffrainc. Pier and face 1D , 8B ac 8C.
Manylion gan Glyn Roberts.
Milwr o Bontllyfni wedi ei Ladd.
Cyrhaeddodd y newydd prudd i Bontllyfni, fod Pte. Samuel A. Dicks, mab Mrs Dicks Roberts, Ddolgam, Pontllyfni, Clynnog, a'r diweddar Mr Benjamin Dicks, Taylor Street, Lerpwl wedi ei ladd yn Ffrainc.Yr oedd Private Dicks yn perthyn i'r Liverpool "Pals" ac efe oedd y milwr cyntaf o Bontllyfni i syrthio yn y rhyfel.
Yr Herald Gymraeg 05/09/1916
PONTLLYFNI EI LADD YN FFRAINC.
Pte. S. A. Dicks, unig fab Mrs. Dicks Roberts, Ddolgam, Pontllyfni, Clynnog, ac wyr i ŵr adnabyddus iawn yn ngwlad Lleyn, neb llai nar diweddar hybarch hen dad, Robert Roberts, hen flaenor hynaf Ty Mawr.Ganwyd Sami, fel y gelwid ef yn Taylor St., Liverpool, lle y cariai ei dad. y diweddar Mr Benjamin Dicks, fasnach eang fel builders merchant. Derbyniodd ei addysg elfenol yn Ysgol Sarn Meillteyrn, yn Lleyn, ac ennillodd ysgoloriaeth i fyned i hen ysgo enwog Bottwnog. Ar ol gorphen ei addysg prentisiwyd ef gydag Allanson's, Grange Road, Birkenhead. Ar ôl gorphen ei brentisiaeth syrmudodd i fasnachdy yn Nghaer, ac aeth oddiyno i Wigan, ond nid oedd yn cael ei iechyd yno.
O'r lle hwnw aeth at Frisby Dyke, Lord Street, Lerpwl, ac yno yr oedd yn fawr ei barch, pan yr ymunodd ar Medi 2, 1914, gyda'r 18th Batt. King's "Pals," Liverpool, gyda'r rhai y symudodd i Hooton, ac, oddiyno i Knowsley Park, ac oddiyno drachefn i Salisbury Plain.
Yn Hydref, 1915, aeth drosodd i Ffrainc, ac ar yr 8fed o Orphenaf yn mrwydr fythgofiadwy Mametz Wood, cafodd ei glwyfo a symudwyd ef i'r ysbyty yn Boulogne, ac ar ôl gwella aeth allan drachefn, a thua chwech o'r gloch yr hwyr yr 16eg o Awst, 1916, tarawyd ef yn ei ben gan sniper tra yn myned allan o'r ffosydd, a bu farw yn uniongyrchol gan beri braw mawr i'w gyfeillion gan ei fod mor uchel ei barch ganddynt.
Yr oedd yn neillduol am ei garedigrwydd a'i sirioldeb, ac yn uchel ei barch gan bawb y cyfarfyddai â hwynt. Tystiolaeth ei feistriaid a'i gyd-wasanaethyddion a'r swyddogion yn y fyddin ydoedd ei fod yn foneddwr, a phe y buasai wedi cael ei arbed buasai dyfodol disglaer o'i flaen, ond nid felly y bu. Rhoddes ei fywyd i lawr dros ei wlad yn fachgen ieuanc 25ain oed, ac y mae man fechan ei fedd yn nghanol gwroniaid ereill yn Ffrainc.
Cydymdeimlir yn ddwys a'i anwyl fam a'i chwaer. Miss Dorie Dicks, yn eu galar dwfn ar ôl mab a brawd mor garedig. Heddwch i'w lwch. - Cyfaill.
Y dewr lanc ieuanc eon-dros ei wlad
R' oes lif coch ei galon.
Tir galanastr gelynion
Dros gauad y llygad llon.
Ow! brudded 'rol ei briddo—yw ei fam
Ni fynn ei chysuro:
Mynn Dolgam nad el o go'.
Mad iawn yw'r cof am dano.
HYWEL TUDUR.