SYRTHIO YN Y RHYFEL.
Dydd Mercher, derbyniodd Mr. a Mrs Thomas, Glan Afon, Rhydyclafdy, hysbysrwydd fod eu mab Private William Benjamin Thomas, wedi ei ladd yn Ffrainc, er Chwefror 26ain, Perthynai i'r South Wales Borderers.Yr oedd yn fachgen ieuanc hoffus rhinweddol iawn, a pherchid ef yn fawr gan ei gydnabod oherwydd lledneisrwydd ei fuchedd.
Mae cydymdeimlad yr ardal yn fawr a'i deulu yn eu trallod a'u galar am dano.