WEDI SYRTHIO.
Cydymdeimlir yn fawr â Mrs Roberts, Gorphwysfa, o'r ardal hon yn ei phrofedigaeth lem o golli ei hanwyl fab, Private Gwilym Roberts yr hwn a gafodd ei ladd yn yr heldrin fawr yn Ffrainc ar Awst 8fed, ac efe ond 20 mlwydd oed.I ychwanegu at lymder y brofedigaeth y mae mab arall Mrs. Roberts wedi ei glwyfo yn lled dost ar faes y gad, sef Private Robert Williams Roberts. Bachgen, o gymeriad glan a phur ydoedd Gwilym, ond bachgen bynod o wrol ac anturiaethus.
Ymfudodd i Canada rhyw bedair blynedd yn ôl pan nad oedd ond 16 mlwydd oed. Pan glywodd fod gelyn creulawn yn ceisio mathru ei Fam Wlad dan ei sarn ymunodd a'r fyddin a daeth drosodd i Ffrainc i ymladd drosti. Bu ar ymweliad a'i fam weddw a'r teulu tua'r Nadolig, a bychan feddylid y pryd hwnw mai dyma'r ymweliad olaf o'i eiddo.
Cafwyd prawf o'i boblogrwydd gan y cynulliad anferth a ymgasglodd i'w wasanaeth goffa yng Nghapel Rhydyclafdy, o bob rhan o'r wlad. Er ei fod wedi ymfudo i Canada yr oedd wedi cadw ei aelodaeth yng Nghapel Rhydyclafdy a thraddododd y Parch Robert Roberts, gweinidog, anerchiad nas anghofir yn fuan er coffhad amdano.