MARW DROS EI WLAD.
Brawychwyd bro ac ardal y Rhiw pan ddaeth y newydd trist fod Pte. Willie Williams, Terfyn, wedi ei ladd yn y Dardanelles.Perthynai i'r 6ed Faialiwn R.W.F. Ymunodd a'r fyddin Awst lleg, 1914 a chlwyfwyd ef Awst 20fed diweddaf. Ef ydoedd y cyntaf o fechyn y Rhiw i ymuno.
Gwasanaethai cyn hyny mewn fferm yn Nghlynnog, Yr oedd yn 21ain mlwydd oed.
Yr oeddym oll yn disgwyl pan oedd yn myned allan y bu yn cael ei arbed i ddod, yn ôl yn fyw ac yn iach, ond yn siomedig y trodd ein gobeithion, ac ni welir yma ei siriol wyneb mwy. Rhoddodd ei fywyd i lawr dros gyfiawnder a thros ei wlad, a rhestrir ef heddyw ym mhlith y merthyron. Y mae y modd y byddai yn dweyd ei adnodau mor groew yn y seiat pan yn hogyn bach a'i lais peraidd yn canu yn fyw yn ein cof.
Ond y mae wedi distewi am byth yr ochr yma. Difrifol ydyw meddwl fod canoedd o fechgyn dewr Gwalia yn syrthio yn aberth i'r cledd. O na wawria'r dydd "Pryd bydd y cleddyfau wedi eu troi yn sychau a'r gwaewffyn yn bladuriau." ac ni chlywir son am ryfel mwy.
Derbynied y teulu oll ein cydymdeimlad dyfnaf yn awr ddu eu puofedigaeth.