Thomas Owen Thomas. 1890-1918
Mab Thomas William Thomas , perchenog peiriant dyrnnu, ac Elizabeth Thomas, Bronheulog, Bryncroes ac wedyn Crugau Mawr, Rhoshirwaun.Yr oedd yn beirianydd ar y llong S S Solway Queen. Llong fasnach oedd yn cludo glo o Ayr yn yr Alban i Newry yng ngogledd Iwerddon. Pan oedd tua saith milltir oddi wrth arfordir yr Alban fe suddwyd y Solway Queen gan dorpedo o un o longau tanfor yr Almaen, ar 2il Ebrill 1918 pryd y collodd unarddeg o’r criw eu bywydau.
Caiff Thomas Owen Thomas ei goffau ar y Tower Hill Memorial yn Llundain.
Manylion gan Glyn Roberts.