NEWYDD TRIST.
Y dydd o'r blaen daeth gair oddiwrth y Parch H. Jones, un o gaplaniaid y Fyddin, yn hysbysu Mrs. Ellen Griffiths, Bay View, fod ei phriod, Mr. William Griffiths, wedi colli ei fywyd yn Ffrainc. Cymerodd y digwyddiad trist le yn ystod un o'r brwydrau yn y coedwigoedd ar Gorphenaf 12. Perthynai i'r 14th Battalion. Ymunodd a'r fyddin yn fuan ar ôl i'r rhyfel dori allan.Yr oedd yn gymeriad tawel, a phawb yn hoff ohono. Gedy briod a phedwar o blant i alaru ar ei ôl. Cydymdeimlir a hwy yn y brofedigaeth lem.
Wele y llythyr a dderbyniwvd : -
Anwyl Mrs Griffiths a phlant bach amddifaid - Caniatewch i mi ddatgan fy nghydymdeimlad dyfnaf â chwi yn eich profedigaeth chwerw o golli eich anwyl briod a thad gofalus eich plant bach. Deallaf i'w yrfa ddod i ben ar faes y frwydr ar y 12fed. Nid oeddwn gyda'r fataliwn ar y pryd, gan fy mod yn gwasanaethu i'r clwyfedigion yn yr hospital. Ac yr oedd yn ofid i'm calon gael ar ddeall fod Griffiths wedi ei ladd.
Cofiaf yn dda y dydd y cefais y fraint o'i dderbyn yn aelod eglwysig, a da genyf gallu dwyn tystiodaeth ei fod wedi byw bywyd teilwng o'r enw gymerodd arno ei hunan y pryd hyny. Ni chynhaliwyd gwasanaeth genym na byddai ef yn bresenol, ac yr oedd yn ysbrydiaeth i mi weled ei wyneb yn y gwasanaeth bob amser, oblegjd byddai y dagrau yn treiglo dros ei ruddiau yn ddieithriad wrth wrandaw yr Efengyl yn y pregethiad ohoni.
Mae erbyn hyn wedi newid byd, ie wedi myned i well byd, mi gredaf, i fod bellach dros byth ar ddelw'r Iesu. Nawdd y nef fyddo trosoch chwi a'ch amddifaid bach yn eich dwfn drallod. Cofiwch fod Tad yr Amddifad a Barnwr y Weddw eto'n fyw. Ei aden ddwyfol fyddo yn cysgodi dros eich aelwyd. Bydded i chwi sylweddoli fod y breichiau tragwyddol yn eich cynal yn eich dydd blin. Bydded i'r Dwyfol Dad eich cuddio yn nirgelfa Ei babell. Cofiwch fod yr Hwn sydd yn llywodraethu yn rhy ddoeth i wneyd camgymeriad ac yn rhy ddoeth i wneyd cam a gŵr yn ei fater.
Yr eiddoch, mewn cydymdeimlad dwfn, gan weddio trosoch,
H. JONES (caplan).