WEDI CWYMPO.

Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr. a Mrs. W. Price Williams, Lleyn Street, y newydd trist fod eu mab, Private Tommy Williams, wedi cwympo ar faes y rhyfel yn Ffrainc. Caed gair am dano ychydig amser yn ôl ei fod ar goll, ond fel arall yr ymddengys y bu ei dynged.

Yr oedd yn ŵr ieuanc hawddgar a hardd ei foes. Symudodd o'r dref rai blwyddi yn ôl i wasanaethu i Lundain a Llandudno.

Gedy weddw ac un plentyn mewn galar ar ei ôl.

Cydymdeimlwn a hwy yn eu trallod blin.

Yr Udgorn 13/11/1918