AR GOLL.
Daeth newydd i'r dref ddydd Gwener fod Mr R. T. Williams, priod Mrs. Williams, High Street, ar goll.Daeth newydd beth amser yn ôl ei fod wedi ei glwyfo ym mrwydr Gaza.
Hyderir y clywir yn ei gylch yn fuan.
Yr Herald Gymraeg 15/05/1917
AR GOLL.
Daeth hysbysrwydd fod Private Albert White, mab Mr a Mrs White, New Street, ar goll ar ôl brwydr fawr Gaza, Clwyfwyd ef a Private R. T. Williams, High Street, yn y frwydr hono ac ni chlywyd dim ynghylch y ddau ar ôl hyny.Hyderwn y ceir rhyw wybodaeth yn eu cylch yn fuan.
Yr Herald Gymraeg 22/05/1917
NEWYDDION PRUDD.
Yr wythnos ddiweddaf daeth hysbysrwydd swyddogol fod Private Robert Thomas Williams, priod Mrs. Maggie Williams, High Street, a mab hynaf Mr a Mrs John Williams, King'shead Street, wedi colli ei fywyd ym Mrwydr Gaza ers tros flwyddyn yn ôl.Yr oedd R. T. Williams yn un o'r dynion ieuainc mwyaf anwyl a hoff a feddai'r dref, ac yn un o dymer fwyn yn wastadol. Darllenodd lawer ar weithiau awdwyr clasurol ym myd llen a gwleidyddiaeth nes etifeddu o hono wybodaeth eang ar bynciau dyrus bywyd, a chymerai ddyddordeb arbenig mewn cwestiynau llosg Sosialaidd a gwerinol byd.
Noswyliodd yn gynar gan adael gweddw ieuanc a dau o rai bach i hiraethu am briod a thad gofalus.