PRYDER AM FEIBION.
Mae Mr. a Mrs Samuel Williams, Tanygarn, gan y rhai y mae pump o feibion yn ymladd yn y rhyfel mewn cryn bryder ynghylch Private Sanders Williams, yr hwn oedd gyda'r Awstraliaid.Daeth llythyr oddiwrth filwr ddechreu yr wythnos yn hysbysu fod ei gydfilwr wedi ei ladd, ond nid oes sicrwydd eto ai i Mr Williams y bwriadwyd y llythyr.
Hefyd, ni chaed gair oddiwrth Private W. Williams, o Salonica, ers dau fis. Cydymdeimlir a'r teulu yn eu pryder.
Yr Herald Gymraeg 26/06/1917
NEWYDD TRIST.
Nos Lun derbyniodd Mr Samuel Williams, Tanygarn, hysbysiad swyddogol o'r Swyddfa Ryfel yn dweyd fod ei fab, Private Saunders Williams, wedi syrthio yn aberth ar faes y gwaed yn Ffrainc.Mae cydymdeimlad cyffredinol y dref â hwy yn eu galar.
Ceir cofnodiad helaethach yr wythnos nesaf.
Yr Udgorn 27/06/1917
Private R SAUNDERS WILLIAMS.
Mab Mr a Mrs Samuel Williams, Tanygarn, yr hwn a roes ei fywyd yn aberth gwirfoddol dros egwyddorion prin y ddynoliaeth ar ddaear Ffrainc. Ymunodd yn wirfoddol yn Hobart, Tasmania, a bu trwy y brwydrau ffyrnicaf a ymladdwyd yn y Dardanelles heb dderbyn unrhyw niwaid. Rhoes o'r neilldu addewidion a gobeithion goreu ei ddyfodol ar allor hunanaberth. Bu fyw fel gwron ynghanol yr alanas, a bu farw fel merthyr yn ei waed. Yno yn bump ar hugain oed y cauodd ei emrynt ar bosibilrwydd ei ddelfrydau daearol, ac yr agorodd ei enaid anfarwol ar eangder diderfyn gwlad ei etifeddiaeth dragwyddol.Yr oedd Saunders yn ddyn ieuanc hoff ac anwyl iawn yn mysg ei gyfoedion a'i gydnabod, ac yn berchen ar adnoddau arbenig oedd yn tynu y lluaws yn ddiwybod i'w hoffi. Eddyf yr oll a'i hadwaenai fod ynddo rhyw swyngyfaredd oedd yn ffinio at addoliad bron, a hwnw yn codi o'i bersonoliaeth hawddgar. Boneddwr ydoedd i'r gwraidd ymhob peth sydd yn gwneud bywyd yn dlws ac arddunol. Ni wnai gam a neb, ac ni lechai twyll a brad yn ei galon bur. Cashai ragrith, ac ni chai y balch a'r chwyddedig dd'od i gylch cyfrin ei gwmniaeth. Y gwir feddyliau oedd engyl cyson ei efrydiaeth feunyddiol.
Gwnaeth addysg ef i hoffi cerdded llwybrau cyfoethog llenyddiaeth yr oesau, a cheid yn ei fywyd bortread cywir o ddylanwad iach y cyfryw ar ei weithredoedd. Mae swyn yn mhob bywyd, ond mae ambell un yn meddu ar fwy o gynysgaeth o hono oherwydd cymesuredd ei fywyd. Felly yn hollol yr oedd Saunders. Deuai hyny i'r golwg pan y chwareuai mor fedrus ar faes y bêl droed, yn y swyddfa, ac ar yr heol. Yn ddiau yr oedd yn llanc athrylithgar. Gwelsom ef er yn blentyn yn tyfu i fyny i ganol egnion a datblygiad bywyd a rhyw neillduolrwydd rhyfedd yn dilyn ei gyflawniadau. Gwelai y cynefin yn ffurfiad cymhesur ei gorff, ei gerddediad myfyrgar, fod yn perthyn iddo fawredd arbenig. Mae genym dystiolaethau lluosog o'r Ysgol Sul hyd at yr Ysgol Ganolradd i brofi ei allu addysgol, cyflymdra ei ddeall, a'i grebwyll bywiog.
Sylwodd Mr D. H. Williams, M.A Prif Athro yr Ysgol Ganolradd, wrth wneud coffa am dano wrth y disgyblion, ei fod yn un o'r ysgrifenwyr llenyddiaeth Saesneg goreu, ac y gallal gyfansoddi ystori cystal ag unrhyw awdwr, a phe cai fyw y deuai ei hun yn awdwr o fri. Y mae geiriau clodfawr y Prif Athro yn cyfiawnhau yr hyn a wyddem ac a gredem ei fod yn wir fab athrylith.
Ceid ynddo feiddgarwch yr arwr i ymgodymu a'r anhawdd ac i ganfod yn y tryblith direol y gwirioneddau sydd yn hanfodi bywyd. Beth yw athrylith ? Ni wyr neb ond ei lluniwr, ac y mae pob deffiniad dynol yn myned yn fud yn ei phresenoldeb am na omedd ei chyfrinach ond i'w hetholedigion. Er hyny y mae ei gweiddioldeb yn naturiol yn ei pherchen, gwib-feddyliau yr hon sydd yn pensynu eiddilod meddyliol am ei bod yn gwaeddi am gyfandiroedd di-ddeddf i'w hynt a heolydd di-dreth i'w sangu. Felly yr oedd yr anhawster i ddeall nodweddion priod ein cyfaill diymhongar, ac y camddeallwyd ef gan lawer am ei fod yn gwaeddi am ryddid y "dragwyddol heol," ac yn methu cynghaneddu ei opiniynau delfrydol a deddfau luniwyd gan ddynion cul i atal cwrs eu gweithrediad yn mlaen.
Costiodd penodau credo y meddyliwr ieuanc yn ddrud iddo, a lliwiwyd pob tudalen a gwaed calon yr ymchwiliwr gonest. Gweuodd ei gyffes ffydd ei hun, a bu farw cyn gorphen ysgrifenu rhagymadrodd ei fywyd. Huned yn dawel mwy yn nhir yr estron, ac na sathred troed yr anystyriol feddrod y merthyr ieuanc.
Duw fyddo'n nodded i'w deulu yn eu galar ar ôl un mor anwyl, a chysgod clyd yn yr ystorm.
Yr Udgorn 04/07/1917
PRIVATE ROBERT SAUNDERS WILLIAMS.
Son of Mr. and Mrs. Samuel Williams, Central Stores, Pwllheli, who fell on July 7th in the Messines Wytschaste Ridge Battle. Deceased emigrated to the Antipodes and settled at Hobart, Tasmania.He joined the Australian contingent and served in Egypt and the Gallipoli campaigns, being afterwards drafted to France. He was a young man of much promise and a general favourite.
Several other brothers are serving their country at home and abroad.
Cambrian News 03/08/1917
ARWR IEUANC.
Yn Nhrysorfa y Plant am y mis hwn ceir ysgrif ddarllenadwy iawn gan Arifog ar yr arwr ieuanc, y diweddar Private R. Saunders Williams, Mab Mr a Mrs Samuel Williams, Tan-y-garn, yr hwn a laddwyd ym mrwydr gofiadwy Messines, Ffrainc, Mehefin, 1917 yn 25 mlwydd oed.Gwelir y bardd yn ei oreu ar ddiwedd yr ysgrif, pan yn gollwng yn rhydd ei deimladau cyfrin, mewn cyfres o benillion lleddf-dyner a gwir nodweddiadol o eilun ei gerdd.
Wele ddyfyniad ohonynt :-
Gadawodd Robert Saunders
Ddewis wlad dyner hin,
A swynion y Tawelfor pell
Am stormydd maes y drin.
Fe ddringodd fryn ei aberth,
A'i law ar garn ei gledd,
Ac ar ei lethrau gwaedlyd, serth,
Y cafodd gynar fedd.
Daw haf yn ôl i Gymru,
Ceir Cog ar onnen îr,
Ond cweg y milwr ieuanc blin,—
Tan groes, mewn estron dir.